Office Bridges Cropped

Cyflwyno Hoopers

Rydym yn cynnig manteision gwybodaeth arbenigol iawn a'r sgiliau a ddatblygwyd dros gyfnod o fwy na 90 mlynedd o weithio ym maes hel achau sy'n gysylltiedig â phrofiant i’r proffesiwn cyfreithiol ac i fuddiolwyr.

I) Buddiolwyr

Pam mae Hoopers wedi cysylltu â chi?

Pan fydd rhywun yn marw heb adael ewyllys (a elwir yn gyfreithiol yn marw’n ddiewyllys), dylai eu perthnasau byw agosaf etifeddu eu stad. Weithiau, fodd bynnag, nid oes unrhyw berthnasau agos yn hysbys.

Un o brif amcanion proffesiynol Hoopers yw dod o hyd i fuddiolwyr cyfreithlon. Yn aml, ni fydd y rhai rydym yn dod o hyd iddynt yn gwybod dim am eu perthynas â'r ymadawedig, neu efallai mai dim ond rhyw frith gof o berthynas pell sydd ganddynt.

Efallai bod gennych hawl i wneud hawliad

Os ydym wedi cysylltu â chi, bydd hynny oherwydd y gallai fod gennych hawl i gyfran o stad sydd heb ei hawlio. Rydym wedi helpu llawer o bobl yn eich sefyllfa chi ac rydym yn gwybod pa mor annisgwyl y gall newyddion o'r fath fod.

Mae'r ffaith ein bod wedi cysylltu â chi yn golygu bod sail gref dros feddwl y gallai fod gennych hawliad dilys.

Rydym yn dda yn ein gwaith

Mae Hoopers wedi bod yn olrhain buddiolwyr yn llwyddiannus ers 90 mlynedd a mwy, ac yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi ennyn ymddiriedaeth a pharch y proffesiwn cyfreithiol.

Os yw Hoopers yn ymwneud ag achos, gallwch fod yn sicr o broffesiynoldeb a chyfrinachedd llwyr ym mhob agwedd ar eich achos chi.

Dim etifeddiaeth, dim costau

Dim ond ffi y cytunwyd arno y gofynnir i chi ei dalu, a hynny os a phryd y byddwch yn derbyn etifeddiaeth. Ni fyddwn byth yn gofyn am unrhyw daliad ymlaen llaw ac, os nad oes dim o werth i chi yn y stad (e.e. os yw ewyllys yn cael ei darganfod yn hwyr), ni fyddwch yn talu’r un geiniog.

Mae croeso i chi gysylltu â ni am unrhyw beth rydych chi angen ei wybod ynghylch eich achos neu unrhyw fater cysylltiedig arall drwy e-bost. Er ein bod yn cyflogi rhai pobl sydd â sgiliau mewn ieithoedd tramor, cofiwch ganiatáu mwy o amser ar gyfer derbyn ymateb os ydych yn cyflwyno'ch ymholiad mewn iaith heblaw Saesneg.

II) Cyfreithwyr

Dros 90 mlynedd o brofiad

Mae Hoopers wedi bod yn gweithio'n llwyddiannus yn cynorthwyo'r proffesiwn cyfreithiol ers 1923, gan ddod o hyd i fuddiolwyr yn effeithiol ac yn gyfrinachol.

Dileu eich risg

Yn y 90 mlynedd diwethaf, rydym wedi wynebu a goresgyn bron i bob her sy’n gallu deillio o waith profiant, felly mae gennym ddealltwriaeth dda o'r materion y gallech fod yn eu hwynebu.

Efallai y gall Hoopers eich helpu chi i ddelio â'r materion hyn, gan ysgafnhau’ch llwyth achosion gyda gwasanaeth trylwyr a chywir gan ymarferwyr medrus.

Cymorth wedi’i gofnodi’n llawn

Hyd yn oed gyda fawr ddim manylion, gall Hoopers ddod o hyd i fuddiolwyr yn unrhyw le yn y byd. Yna darperir coeden deulu hawdd ei deall wedi’i chofnodi’n llawn i gyd-fynd ag unrhyw ganfyddiadau.

Ffioedd

Mae Hoopers yn cynnig strwythur ffioedd clir a syml i'ch helpu i reoli cymhlethdodau gweinyddu stadau.

  • Ffi Penodedig: Gall Hoopers ymgymryd ag ymchwil ar gyfradd benodedig ac ar sail cyllideb y cytunwyd arni
  • Trefniant Wrth Gefn: Rydym yn ymrwymo i ddod o hyd i fuddiolwyr posibl gan dderbyn unrhyw risg neu gost ein hunain, gan gytuno ar gomisiwn gyda phob buddiolwr
  • Ffi Seiliedig ar Amser: Gallwn ymchwilio i achos ar sail amser hefyd, ar gyfradd resymol y cytunwyd arni, i'w thalu beth bynnag fo’r canlyniad

Ymgynghoriad am Ddim

Rydym yn fwy na pharod i gynnig ymgynghoriadau am ddim heb unrhyw rwymedigaeth.

Mae ein tîm profiadol yn gallu cynnig cyngor ar bob mater sy'n ymwneud â phrofiant neu achau.

Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost. Er ein bod yn cyflogi rhai pobl sydd â sgiliau mewn ieithoedd tramor, cofiwch ganiatáu mwy o amser ar gyfer derbyn ymateb os ydych yn cyflwyno'ch ymholiad mewn iaith heblaw Saesneg.

Email Address

info@hoopers.co.uk